Modiwl 3: Datblygu a Chynllunio Ymgyrch Farchnata
About Lesson
finding competitors

Darganfod Cystadleuwyr

 

Bydd eich ymchwil wedi caniatáu i chi ddarganfod pwy yw eich cystadleuwyr. O hynny byddwch yn gallu gwneud penderfyniadau ynglŷn â’ch ymgyrch farchnata er mwyn ceisio sicrhau mai chi sy’n ennill busnes y cwsmeriaid yn hytrach na’r gystadleuaeth.

Fel y dywedwyd eisoes, rhaid cadw mewn golwg bod gennych gystadleuwyr uniongyrchol (sy’n gwneud yr un nwydd neu’n darparu’r un gwasanaeth â chi) a chystadleuwyr anuniongyrchol (nad ydynt yn darparu’r un nwydd neu wasanaeth ond sy’n diwallu’r un angen).

Po fwyaf rydych chi’n ei wybod am sut mae eich cystadleuwyr yn denu cwsmeriaid, gorau oll.

Gallwch wedyn ddewis p’un ai i farchnata mewn ffordd debyg i’ch cystadleuwyr neu fynd ar drywydd hollol wahanol.