Modiwl 3: Datblygu a Chynllunio Ymgyrch Farchnata
About Lesson

Hyrwyddo

 

Hyrwyddo yw ochr fwyaf amlwg marchnata. Dyma sut mae cael gwybodaeth am eich nwydd at eich cwsmer. Mae hyrwyddo’n sicrhau bod pobl yn gwybod am eich nwydd. Ond er ei fod yn cynnwys hysbysebu, mae llawer mwy iddo na phosteri yn unig.

Welcome to Wrexham
Murlun hysbyseb ar gyfer y gyfres deledu, ‘Welcome to Wrexham’ gan sianel FX, yn Wrecsam
(h) Cody Froggatt/Alamy Live News

Hysbysebu

 

Mae hysbysebu’n gallu cyrrae­­­dd marchnad enfawr neu farchnad fwy cyfyng yn dibynnu ar y math o gyfrwng a ddefnyddir.

Mae’n cynnwys:

  • • Hysbysebion print mewn cylchgronau a phapurau newydd.
  • • Hysbysebion ar y teledu neu yn y sinema
  • • Hysbysebu ar y rhyngrwyd
  • • Hysbysebu ar y radio
  • • Posteri gan gynnwys hysbysfyrddau a hysbysfyrddau electronig.

Mae hysbysebu’n gallu bod yn ddrud gan ddibynnu ar y cyfrwng, ond gall fod yn werth yr arian os byddwch yn gallu cyrraedd marchnad eang. Anfantais hysbysebu yw ei fod yn gallu cyrraedd nifer o bobl nad ydynt yn eich marchnad darged. Mae busnesau felly’n ceisio targedu eu hysbysebion, er enghraifft trwy amseru hysbysebion teledu ar adegau o’r diwrnod y bydd eu marchnad darged yn debygol o fod yn gwylio neu o amgylch rhaglenni penodol.

Y tro nesa y byddwch chi gartref yn ystod y dydd, ceisiwch wylio hysbysebion yn y bore, y prynhawn a gyda’r hwyr. Ydy’r hysbysebion yn wahanol ar wahanol adegau?

Cysylltiadau cyhoeddus (PR)

 

Mae hyn yn ffordd o geisio cyfathrebu gyda’ch marchnad a gwneud iddyn nhw deimlo fel eu bod yn adnabod y cwmni.

Dulliau PR yw:

Cynadleddau i’r wasg

Cynadleddau i’r wasg – gwahodd y wasg ac eraill i ddod i safle’r cwmni (neu safle arall) er mwyn rhoi gwybodaeth iddynt am lansiad nwydd neu ddatblygiadau newydd yn y cwmni e.e. Cynhadledd Meta Connect

Datganiadau i’r wasg

Datganiadau i’r wasg – Mae datganiadau i’r wasg yn debyg i gynadleddau i’r wasg ond bod y busnes yn anfon y datganiad allan i ystafelloedd newyddion yn hytrach na gwahodd gohebwyr i mewn. Y gobaith ym mhob achos yw y bydd y gohebwyr yn ysgrifennu neu’n darlledu stori yn seiliedig ar yr wybodaeth.

Dilynwch y ddolen i weld cyngor Cyfeillion y Ddaear ynglŷn ag ysgrifennu datganiad i’r wasg:

 

Cyngor Cyfeillion y Ddaear

Cyfraniadau elusennol

Mae rhai busnesau’n rhoi arian i elusennau fel rhan o’u gweithgareddau cysylltiadau cyhoeddus. Mae dau reswm dros wneud hyn. Yn gyntaf mae gan y busnes ddiddordeb arbennig yn yr elusen ac eisiau ei chefnogi, yn ail, mae’n creu delwedd gorfforaethol bositif.

Diwrnodau ymweld

Mae rhai busnesau’n cynnig diwrnodau ymweld lle gall aelodau o’r cyhoedd fynd o gwmpas y busnes. Er enghraifft mae cwmni Viridor yng Nghaerdydd yn cynnig teithiau o gwmpas ei ffatri er mwyn  i bobl ddysgu mwy am sut maen nhw’n ailgylchu.

Nawdd

Mae nawdd yn digwydd pan fo busnes yn talu i’w enw gael ei ddefnyddio ar rywbeth fydd yn cael ei weld gan y cyhoedd.

Enghraifft enwog yng Nghymru yw Stadiwm y Mileniwm sydd wedi newid ei henw i Stadiwm Principality mewn cytundeb gwerth miliynau o bunnoedd gyda Chymdeithas Adeiladu Principality.

Enghraifft arall yw crysau dyfarnwyr rygbi sy’n cael eu noddi gan Specsavers.

Nigel Owens
© Huw Evans Picture Agency

Cwmni trelars Ifor Williams oedd yn arfer noddi blaen crysau Clwb Pêl-droed Wrecsam. Cliciwch ar y ddolen i weld hysbyseb ffug ar gyfer y cwmni gan Ryan Reynolds a Rob McElhenney

Erbyn heddiw mae’r diddordeb yn y clwb yn sgil y gyfres lwyddiannus Welcome to Wrexham wedi arwain at noddwyr gyda phroffil llawer uwch ac yn 2023 cyhoeddodd y tîm y byddai’r crysau yn cael eu noddi gan United Airlines.

Defnydd o gyfryngau cymdeithasol a chyfryngau eraill

Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn dod yn fwyfwy pwysig fel cyfryngau i hyrwyddo busnesau. Mae busnesau’n hyrwyddo ar Facebook, Instagram, YouTube,  X (Twitter), TikTok a nifer o lwyfannau eraill ar draws y byd.

Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn gallu bod yn effeithiol iawn gan y gellir postio cynnwys am ddim. Wedi dweud hyn mae busnesau yn aml yn cyflogi arbenigwyr cyfryngau cymdeithasol i reoli eu hallbwn. Gellir hefyd talu i roi hysbysebion ar y cyfryngau er mwyn cyrraedd amrywiaeth ehangach o bobl na’ch dilynwyr yn unig.

Gwyliwch y fideo isod i weld cwmni Bodoli yn sôn am ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol:

Mae twf enfawr wedi bod mewn unigolion a elwir yn ddylanwadwyr ar y cyfryngau cymdeithasol. Dylanwadwyr yw unigolion a ddilynir gan filiynau o bobl sy’n gwylio eu cynnwys. Oherwydd hyn mae dylanwadwr yn gallu rhoi hwb i nwydd neu wasanaeth trwy ei hyrwyddo neu ei ddangos ar eu sianel. Pan fydd busnes yn talu i ddylanwadwr ddefnyddio ei nwydd neu wasanaeth mae’n rhaid i’r dylanwadwr nodi hyn.

Ydych chi’n dilyn dylanwadwyr?

Ydych chi erioed wedi prynu nwydd neu wasanaeth am eich bod wedi gweld dylanwadwr yn ei ddefnyddio?

Marchnata anghonfensiynol

Dyma fath o farchnata sy’n ceisio ffyrdd gwahanol i ddenu sylw’r cyhoedd.

Mae marchnata anghonfensiynol yn gallu bod yn effeithiol iawn ond mae angen llawer o ddychymyg!

Gwelir rhai enghreifftiau isod (Cliciwch ar y delweddau i’w gwneud yn fwy.):

Gwerthu personol

Dyma pryd mae’r busnes yn cyflogi unigolion i werthu eu nwyddau. Er enghraifft, mewn ystafell arddangos ceir mae pobl sy’n gallu siarad y cwsmer drwy’r broses o brynu. Ceir y math hwn o hyrwyddo mewn siopau technoleg fel Apple Store lle mae ganddynt staff gwerthu a all ateb cwestiynau am y cynnyrch.

Mae hefyd yn gallu digwydd dros y ffôn.

Mae hon yn gallu bod y ffordd ddrud o hyrwyddo am fod angen talu staff, ond mae’n gallu bod yn effeithiol os yw’r nwydd neu wasanaeth yn gymhleth. Mae busnesau B2B yn defnyddio mwy o werthu personol gan fod y nwyddau’n aml yn dechnegol iawn.

Lleoli cynnyrch

Mae lleoli cynnyrch yn ymwneud â defnyddio cynhyrchion mewn ffilmiau a rhaglenni teledu. Gwelir enghreifftiau isod o leoli cynnyrch yn y gyfres Netflix, Stranger Things.

Stranger Things
Stranger Things
Delweddau ©Netflix

Mae ffilmiau James Bond yn enwog am leoli cynhyrchion moethus fel ceir Aston Martin ac oriorau Omega.

 

Marchnata Digidol

Marchnata gan ddefnyddio cyfryngau technoleg gwybodaeth yw marchnata digidol felly mae’n cynnwys cyfryngau cymdeithasol ond hefyd gwefannau, blogiau, e-flogiau e-byst ac ati.

Mae cael gwefan yn ddefnyddiol i fusnesau roi mwy o wybodaeth i’r cwsmeriaid ar flaen eu bysedd. Gallant hefyd ddefnyddio’r wefan er mwyn gwerthu’n uniongyrchol. Mae blogiau ac e-flogiau yn meithrin diddordeb yn y cwmni ac yn gwneud i’r cwsmer deimlo eu bod yn adnabod y cwmni’n well. Mae pobl yn llawer mwy tebygol o brynu gan gwmni maen nhw’n teimlo cysylltiad emosiynol ag ef.

Cliciwch ar y ddolen i weld enghraifft o blog ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol:

Delwedd gorfforaethol

Delwedd gorfforaethol yw sut mae cwmni’n portreadu ei hun i’w gwsmeriaid a sut mae’r cwsmer yn ei weld. Mae 3 agwedd i ddelwedd gorfforaethol.

  • • Cyfathrebu corfforaethol yw’r iaith a ieithwedd mae’r busnes yn eu defnyddio
  • • Dyluniad corfforaethol yw sut mae’r busnes yn edrych, ei liwiau, ei frandio, y teimlad mae’n ei roi
  • • Ymddygiad corfforaethol – y ffordd mae’r busnes yn ymddwyn.

Mae angen i’r elfennau hyn i gyd asio â’i gilydd er mwyn creu delwedd gorfforaethol synhwyrol.