Pris – Strategaethau Prisio
Mae pennu’r pris cywir yn hollbwysig yn eich strategaeth farchnata ac nid yw pris yn benderfyniad y gallwch ei dynnu o’r awyr. Gall fod gennych yr ymgyrch farchnata orau yn y byd ond os nad yw’r cwsmer yn teimlo bod y pris yn gywir, ni fydd yn prynu’r nwydd. Os ydy nwydd yn rhy ddrud i’r cwsmeriaid ei fforddio, fydd dim galw am y nwydd.
Wedi dweud hyn, mae pobl yn fodlon talu mwy am nwyddau maen nhw’n eu hystyried yn rhai ‘moethus’ neu sydd â brand maen nhw eisiau bod yn gysylltiedig ag ef. Ar y llaw arall, mae pobl yn gallu ystyried nwyddau sydd â phris rhy isel i fod o ansawdd isel neu fod yn israddol mewn rhyw ffordd.
Mae nifer o strategaethau prisio ar gael – cliciwch arnynt i ddysgu mwy
Treiddio
Prisio treiddio yw prisio eich nwydd yn isel er mwyn ceisio ennill cwsmeriaid. Y gobaith yw y bydd cwsmeriaid yn prynu’r nwydd am ei fod yn rhad ond wedyn yn parhau i brynu’r nwydd am eu bod yn hoff ohono. Enghraifft o hyn yw cynigion cychwynnol e.e. 2 fis am £9.99 ac yna £24.99 y mis.
Sgimio
Mae cwmnïau’n aml yn defnyddio prisio sgimio ar gyfer nwyddau sydd yn ddrud i’w datblygu. Mae gwneuthurwyr gemau consol yn codi pris uchel am eu gemau pan gânt eu lansio er mwyn adennill eu costau datblygu tra bod diddordeb ar ei uchaf. Er enghraifft, pan lansiwyd Legend of Zelda – Tears of the Kingdom, gwerthwyd dros 2.3 miliwm o gopïau yn y tri diwrnod cyntaf ar ôl ei lansio, a 18.1 miliwn yn y mis a hanner cyntaf. Mae prisio sgimio’n galluogi’r cwmni i gymryd mantais yn y cyfnod pan fydd diddordeb ar ei uchaf.
Wrth i’r gêm heneiddio, bydd y pris yn gostwng wrth i gemau eraill ddod ar y farchnad; bydd sylw pobl yn symud at bethau newydd, a bydd gwefannau gwerthu’n dechrau gwneud cynigion arbennig.
Ar sail cystadleuaeth
Mae prisio ar sail cystadleuaeth yn golygu gosod pris yn agos iawn at bris eich cystadleuaeth neu efallai ychydig oddi tano. Efallai byddai siop goffi fach leol yn codi prisiau ychydig is na chystadleuwr mawr fel Costa neu Starbucks er mwyn ceisio denu cwsmeriaid. Mae hyn yn gallu bod yn strategaeth lwyddiannus ond mae perygl y bydd eich cystadleuwyr yn ymateb trwy addasu eu prisiau nhw hefyd.
Cost plws
Mae’n rhaid i fusnes sicrhau ei fod mewn sefyllfa i dalu ei gostau felly mae prisio cost plws yn ceisio gwneud hyn. Mae’r strategaeth hon yn ychwanegu canran at gost darparu’r nwydd. Er enghraifft os yw nwydd neu wasanaeth yn costio £10, bydd y busnes yn rhoi ychwanegiad o 50% er mwyn rhoi pris gwerthu o £15. Mae hon yn gallu bod yn strategaeth dda am ei bod yn sicrhau bod y costau i gyd yn cael eu talu ond yr anfantais yw nad yw’n ystyried anghenion y cwsmer.
Cynigon arbennig
Mae cynigion arbennig yn cynnwys rhoi gostyngiad; prynu un, cael un am ddim (BOGOF) neu 3 am bris 2. Mae cynigion arbennig yn annog cwsmeriaid i brynu’r nwydd ac maen nhw’n gallu cael eu defnyddio ar gyfer nwyddau newydd, i werthu nwyddau sydd dros ben e.e. ar ôl y Nadolig neu’r Pasg, neu i roi hwb i werthu nwyddau sydd ar y farchnad yn barod.
Gallwch ddysgu mwy trwy wylio’r fideo isod: