Dewis nodau ac amcanion marchnata priodol i gydweddu â nodau’r busnes.
Y peth cyntaf sydd angen ei wneud wrth gynllunio ymgyrch farchnata yw gosod nodau ac amcanion yr ymgyrch.
Nod
Nod yw rhywbeth tymor hir rydych chi eisiau ei gyflawni, er enghraifft, cynyddu gwerthiannau. Mae nod yn ddefnyddiol am ei fod yn cwmpasu eich uchelgais ac yn rhoi syniad cyffredinol i chi o’ch cyfeiriad. Mae’n sail i osod yr amcanion.
Amcanion
Amcanion yw pethau tymor byr a all gael eu mesur sy’n arwain at gyflawni’r nod. Er enghraifft: cynyddu nifer y cwsmeriaid sy’n dod trwy’r drws 20% mewn 6 mis. Dylai’r amcanion osod strategaethau penodol, mesuradwy a dealladwy er mwyn cyrraedd y nod.
Mae nifer o ddulliau y gallwch eu defnyddio er mwyn penderfynu ar y nod ac amcanion. Gallwch ddefnyddio dadansoddiad sefyllfa fel SWOT a PESTLE, gallwch hefyd ddefnyddio eich ymchwil marchnad i bennu marchnad darged ac i ddarganfod mwy am eich cystadleuwyr. Byddwn yn edrych arnynt yn eu tro.