Dadansoddiad PESTLE
Mae dadansoddiad PESTLE yn arf defnyddiol i gael darlun mwy clir o amgylchedd allanol busnes fel rhan o’r broses gynllunio ar gyfer ymgyrch farchnata. Mae’n darparu fframwaith ar gyfer ystyried y nodweddion canlynol:
P(olitical) Gwleidyddol
Grymoedd allanol sy’n deillio o’r Llywodraeth a gwleidyddiaeth leol, datganoledig a chenedlaethol gan gynnwys carfannau pwyso. Mae gan wahanol bleidiau wahanol flaenoriaethau felly mae pa bynnag blaid sydd mewn grym, a’i pholisïau, yn gallu gwneud gwahaniaeth i weithgareddau marchnata busnes.
E(conomic) Economaidd
Grymoedd allanol sy’n deillio o gyflwr yr economi. Os yw’r economi’n llewyrchus bydd busnesau hefyd yn elwa ond pan fydd yr economi’n wan gall y gwrthwyneb fod yn wir. Mae cyflwr yr economi’n gallu cael effaith ar allu pobl i brynu nwyddau; er enghraifft, pan fydd yr economi’n perfformio’n wael efallai y bydd pobl yn stopio prynu nwyddau moethus fel gwyliau, ceir newydd a phrydau bwyd mewn bwytai. Mae hyn yn cael effaith ar fusnesau sy’n darparu’r mathau hyn o nwyddau.
S(ocial) Cymdeithasol
Grymoedd allanol sy’n deillio o siâp a nodweddion y gymdeithas. Mae newidiadau yn y gymdeithas yn gallu bod yn allweddol er mwyn gwneud penderfyniadau busnes.
Yng Nghymru, er enghraifft, ceir ardaloedd ble mae nifer fawr o’r tai yn dai gwyliau. Mae hyn yn newid demograffeg ardal dros y flwyddyn. Yn yr haf mae tai gwyliau’n debygol o fod yn llawn ond yn y gaeaf, mae’n bosibl mai prin fydd nifer yr ymwelwyr. Mae hynny’n rhywbeth y byddai angen i fusnes sydd eisiau sefydlu neu werthu yn yr ardal fod yn ymwybodol ohono.
T(echnological) Technolegol
Nodweddion sy’n seiliedig ar elfennau technolegol. Mae’r cyd-destun technolegol yn bwysig iawn i rai busnesau, fel busnesau yn y diwydiant technoleg gwybodaeth, y diwydiant meddygol, y diwydiant ynni amgen. Wrth i dechnoleg ddatblygu a newid mae’n agor cyfleoedd newydd, megis y farchnad ar gyfer ceir trydan.
Mae datblygiadau ym meysydd deallusrwydd artiffisial a realiti estynedig yn rhai a all gael effaith fawr ar y diwydiant marchnata.
L(egal) Cyfreithiol
Mae deddfwriaeth a rheoliadau sy’n cael eu llunio gan Lywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig yn effeithio ar fusnesau.
Mae newidiadau mewn deddfwriaeth yn gallu cael effaith ar sut y gall busnes farchnata ei nwyddau.
Er enghraifft mae Llywodraeth y DU wedi llunio deddfwriaeth i wahardd hysbysebu bwydydd sy’n uchel mewn siwgr a braster rhwng 5.30yp a 9.00yp o 2025. Bydd hyn yn amlwg yn fygythiad i gwmnïau sy’n gwerthu losin, siocled, bwydydd cyflym ac ati.
Mae Llywodraeth Cymru wedi newid y terfyn cyflymder mewn ardaloedd preswyl i 20mya. Gall hyn fod yn fygythiad posibl i rai busnesau ond yn gyfle posibl i fusnesau eraill.
Gwyliwch y fideo hwn ar wefan BBC Cymru Fyw:
Ar ba fusnesau mae’r polisi’n debygol o effeithio’n negyddol?
Oes cyfleoedd i fusnesau sy’n gweithgynhyrchu beiciau/sgwteri neu fusnesau eraill?
E(nvironmental) Amgylcheddol
Grymoedd amgylcheddol sy’n effeithio ar fusnes fel dewisiadau ynni, llygredd, effaith tywydd, newid hinsawdd ac ati. Mae ystyriaethau amgylcheddol yn gallu codi rhwystrau neu greu cyfleoedd i fusnesau. Er enghraifft, mae pryder am ormodedd o blastig wedi arwain at rai busnesau’n newid eu deunydd pecynnu. Mae cwsmeriaid hefyd yn symud i ffwrdd o nwyddau plastig untro. Mae hyn yn rhywbeth mae busnesau fel Ecoslurps o Gaerdydd wedi llwyddo i elwa ohono:
Gallwch weld mwy o wybodaeth ynghylch PESTLE ar wefan Porth: