Modiwl 3: Datblygu a Chynllunio Ymgyrch Farchnata
About Lesson

Gweithgareddau Ymgyrch Farchnata

 

Unwaith y mae ymchwil y farchnad wedi ei gwblhau, gellir symud ymlaen i ddatblygu ymgyrch farchnata yn seiliedig ar y wybodaeth y mae busnes wedi ei gasglu. Y gobaith nawr yw bod y busnes yn gwybod llawer mwy am ei farchnad darged ac felly’n gallu teilwra’r ymgyrch farchnata er mwyn ei chyrraedd.

Er mwyn marchnata’n effeithiol, mae’n bwysig iawn cael cynllun fel bod y gweithgareddau marchnata’n gallu cael eu cwblhau’n effeithiol. Yn aml mae gan ymgyrch farchnata effeithiol nifer o weithgareddau amrywiol ar wahanol gyfryngau felly mae’n bwysig gwybod beth sy’n digwydd, pryd ac ym mha drefn. Bydd cael cynllun manwl hefyd yn eich galluogi i fonitro sut mae’r gweithgareddau marchnata’n dod yn eu blaen.

Nid yw cael cynllun yn meddwl na all pethau newid ac mae cynllun da’n hyblyg – yn gallu ymateb i amgylchiadau gan adeiladu ar bethau sy’n gweithio a dileu neu newid gweithgareddau nad ydynt yn cael yr effaith ddisgwyliedig.

Gwyliwch y fideo i weld cyngor Busnes Cymru ynglŷn â chreu cynllun marchnata:

Mae Busnes Cymru yn awgrymu y dylech ddefnyddio’r penawdau canlynol i gynllunio eich marchnata:

 

1. Eich nodau ac amcanion marchnata

2. Diffinio eich cwsmeriaid

3. Eich strategaethau marchnata

4. Cynllun Gweithredu

5. Amserlen Cynllun Gweithredu Marchnata

6. Eich Dyddiadur Marchnata

7. Monitro, gwerthuso a rheoli

 

Cliciwch ar y ddolen i ddarllen mwy ac i lawrlwytho cynllun marchnata bras: