Priodoldeb yr Ymgyrch Farchnata
Bydd angen i chi sicrhau bod yr ymgyrch farchnata yn addas at ei phwrpas
I ba raddau mae’r gweithgarwch marchnata’n atgyfnerthu gwerth y brand a’i gefnogi.
Dylai pob ymgyrch farchnata gael effaith bositif ac ychwanegu at werth y brand. Gellir profi hyn trwy dreialu ymgyrch cyn ei defnyddio.
Roedd yr hysbyseb isod i fod i ddangos bod Dove ar gyfer pob menyw (peth positif a fyddai’n atgyfnerthu’r brand) ond pan ymddangosodd yn y cyfryngau cafwyd ymateb chwyrn gyda nifer o gwsmeriaid yn dweud y byddent yn boicotio’r nwydd oherwydd hysbyseb hiliol. Roeddent yn canfod bod yr hysbyseb yn dangos bod y fenyw ddu yn trawsnewid i mewn i fenyw wen ar ôl defnyddio’r hylif ymolchi.
Roedd yn rhaid i Dove ymddiheuro a thynnu’r hysbyseb oddi ar y cyfryngau hysbysebu – camgymeriad drud mewn mwy nag un ffordd.
Cynaliadwyedd gweithgareddau marchnata
Mae hirhoedledd yr ymgyrch yn bwysig – h.y., yr amser y bydd yr ymgyrch yn gallu rhedeg. A yw’n gallu cael ei defnyddio dros amser neu oes rhywbeth a allai ddigwydd a fyddai’n cael effaith ar yr ymgyrch fel newid deddfwriaeth? Mae’n bwysig ystyried hyn cyn gwario arian ar yr ymgyrch.
Hyblygrwydd yr ymgyrch i allu ymateb i newidiadau mewnol ac allanol
Dylai cynllun sy’n cael ei fonitro’n rheolaidd allu bod yn hyblyg i newid mewn digwyddiadau mewnol ac allanol. Gallai newidiadau mewnol fod yn bethau fel aelod o staff yn gadael. Bydd angen i’r cynllun allu cael ei addasu ar gyfer gweddill y tîm. Gall enghreifftiau allanol gynnwys unrhyw un o’r agweddau y soniwyd amdanynt eisoes mewn dadansoddiad PESTLE.
Perthnasedd nodau’r sefydliad
Mae’n rhaid i ymgyrch farchnata gynnal neu weithio tuag at nodau’r sefydliad. Felly os mai nod y sefydliad yw cynyddu gwerthiannau, er enghraifft, dylai’r ymgyrch farchnata ganolbwyntio ar hyn. Ar y llaw arall, os mai nod y sefydliad yw codi ymwybyddiaeth o nwydd neu wasanaeth newydd, dylai’r ymgyrch farchnata ddilyn y trywydd hwnnw. Mewn ymgyrch farchnata sydd wedi’i chynllunio’n drwyadl, bydd nodau ac amcanion y sefydliad yn cael eu hystyried fel rhan o’r cynllunio.
Priodoldeb i’r farchnad darged
Mae’n allweddol bod ymgyrch farchnata’n briodol ar gyfer y farchnad darged neu ni fydd yn apelio at y farchnad, ac felly ni fydd yn cyrraedd y nod. Fel y gwelwyd uchod gyda hysbyseb Dove, mae’n gwneud synnwyr treialu eich ymgyrch gyda’ch marchnad darged, efallai mewn grŵp ffocws cyn lansio eich ymgyrch. Gellir gwneud hyn drwy ddefnyddio dulliau ymchwil fel grwpiau ffocws.
Ystyriaethau cyfreithiol a moesegol
Mae pob ymgyrch farchnata’n gorfod aros o fewn cyfyngiadau’r gyfraith. Mae rhaid iddynt hefyd ymddwyn mewn ffordd foesegol yn eu hymgyrchoedd. Os nad yw busnes yn ymddwyn mewn ffordd gyfreithiol a moesegol, gall y goblygiadau fod yn llym.
Mae’r Awdurdod Safonau Hysbysebu yn asiantaeth sy’n sicrhau bod hysbysebion yn ‘gyfreithiol, gweddus, gonest a gwir.’
Mae aelodau’r cyhoedd yn gallu cwyno wrth yr Awdurdod ac os bydd yn meddwl bod yr hysbyseb yn torri ei reolau bydd yn gorfodi’r cwmni i newid yr hysbyseb neu ei dileu yn gyfan gwbl.
Cliciwch ar y ddolen i weld mwy am yr hyn mae’r Awdurdod yn ei wneud: