Modiwl 3: Datblygu a Chynllunio Ymgyrch Farchnata
About Lesson

Lle

Mae dywediad yn y diwydiant gwerthu tai – “lleoliad, lleoliad, lleoliad”.

Mae’n golygu mai lleoliad yw’r peth pwysicaf i’w ystyried. Mae lleoliad hefyd yn bwysig i ystyried wrth farchnata.

Lleoliad yn nhermau marchnata yw’r lle y bydd y cwsmer yn gallu prynu eich nwydd neu ddefnyddio eich gwasanaeth, hynny yw, pa lwybr dosbarthu fyddwch chi’n ei ddefnyddio.

Mae llwybrau dosbarthu’n ymwneud â sut y bydd eich nwydd yn cyrraedd y cwsmer, gallwch ddewis llwybr uniongyrchol sef gwerthu’n syth i’r cwsmer neu werthu’n anuniongyrchol drwy drydydd parti.

 

Gwerthu uniongyrchol

Mae hyn yn cynnwys gwerthu drwy eich gwefan neu agor safle gwerthu eich hun e.e. siop, siop fferm, stondin farchnad ac ati.

Gwyliwch y fideo isod i weld Angharad Gwyn o gwmni Adra yn sôn am sut mae hi’n gwerthu ei nwyddau’n uniongyrchol (gweminarau busnes 4).

 

 

Nid yw gwerthu uniongyrchol bob amser yn golygu siop draddodiadol. Mae ffyrdd eraill o werthu nwyddau’n uniongyrchol i’r cyhoedd. Mae llaeth y  teulu Jenkins yn cael ei werthu o beiriannau arbennig yn y canolbarth: 

 

Gwerthu trwy Adwerthwr

Efallai y byddwch eisiau gwerthu eich nwydd drwy adwerthwyr h.y. siopau ‘brics a mortar’ – siopau go iawn fel siop goffi, neu mewn siopau ar-lein fel Amazon neu Etsy. Mae angen cadw mewn cof y bydd yr adwerthwr yn gwerthu eich nwydd am bris uwch oherwydd bod rhaid iddo ychwanegu canran er mwyn talu ei gostau a gwneud elw.

 

Gwerthu trwy Gyfanwerthwyr

Mae llawer o fusnesau’n gwerthu trwy gyfanwerthwyr. Mae cyfanwerthwyr yn prynu nwyddau mewn swmp gan y gweithgynhyrchwyr ac yn gwerthu i adwerthwyr mewn sypiau llai.

Mae hyn yn haws i’r adwerthwyr am eu bod yn gallu archebu neu brynu nwyddau o un lle yn hytrach nag oddi wrth y gwneuthurwyr yn uniongyrchol.

Rhaid cofio y bydd pawb yn y gadwyn ddosbarthu’n ychwanegu at y pris, felly yr hiraf yw’r gadwyn, yr uchaf fydd y pris i’r cwsmer terfynol. 

Gwyliwch y fideo isod i weld mwy o wybodaeth am gwmni Castell Howell, cyfanwerthwr o Cross Hands:

Lleoliad Gwasanaethau

Wrth sôn am wasanaethau, mae lleoliad y gwasanaeth yn bwysig – neu ble mae’n cael ei gynnal.

Dyma aelod o staff Tafwyl yn siarad am leoliad yr Ŵyl ar wefan BBC Cymru Fyw.