Modiwl 3: Datblygu a Chynllunio Ymgyrch Farchnata
About Lesson

Yr Ymgyrch Farchnata

Felly, mae’n amser mynd ati i feddwl am ddylunio’r ymgyrch farchnata. Rydych wedi gwneud eich dadansoddiad SWOT a PESTLE ac wedi dadansoddi eich cystadleuwyr. Felly nawr mae angen meddwl am y canlynol:

 

Cynnwys y neges

Mae cynnwys y neges yn hollbwysig. Mae angen i chi sicrhau ei fod yn addas i’ch marchnad darged.

Yn aml iawn sonnir am gysyniad AIDA yng nghyd-destun neges farchnata.

Mae AIDA yn sefyll am:

  • • A(wareness) – Ymwybyddiaeth
  • • I(nterest) – Diddordeb
  • • D(esire) – Chwant
  • • A(ction) – Gweithred

AIDA

Felly dylai eich neges farchnata ddal sylw eich marchnad ac ysgogi diddordeb i wybod mwy, yna dylai godi chwant ar eich marchnad darged fel ei bod yn prynu eich nwydd neu wasanaeth.

Edrychwch ar y sgrin-lun o wefan Bodoli er mwyn gweld egwyddorion AIDA ar waith.

Ar frig y dudalen mae’n codi ymwybyddiaeth o beth yw’r cynnig sef ‘rhoddion pwrpasol prydferth o Gymru’

Mae’n meithrin diddordeb trwy ddangos lluniau o’r nwyddau ac yna’n adeiladu chwant trwy ddisgrifio’r nwydd gan ddefnyddio geiriau fel ‘unigryw’ a ‘perffaith’.

Yn olaf mae botwm pwrpasol ‘galwad i weithredu’ i’r cwsmer gael archebu’r nwydd yn hawdd. 

Bodoli

Dewis cymysgedd farchnata briodol

Mewn ymgyrch farchnata mae’n rhaid i’r 4P asio. Er enghraifft, os ydych chi’n marchnata nwydd moethus, mae’n rhaid i’r gweithgareddau hyrwyddo adlewyrchu hynny, mae angen i’r lleoliadau gwerthu adlewyrchu hynny ac mae’n rhaid i’r pris adlewyrchu hynny hefyd, neu bydd eich neges yn ddryslyd ac ni fydd y cwsmer yn ei deall.

Hefyd dylai pob elfen o’r gymysgedd farchnata fod yn addas ar gyfer eich marchnad darged.

Mae dewis y cyfryngau priodol yn hanfodol er mwyn cyrraedd eich marchnad darged o fewn eich cyllideb. Mae hysbysebu mewn rhai cyfryngau’n gallu bod yn ddrud iawn i’w gynhyrchu a’i arddangos, e.e. hysbysebion teledu, ond mae’n werth yr arian i gwmnïau mawr sy’n gallu cyrraedd marchnad darged eang. Fodd bynnag nid yw’r rhain yn effeithiol er mwyn cyrraedd marchnadoedd targed arbenigol. Ar gyfer rhai marchnadoedd arbenigol efallai y bydd cylchgronau arbenigol yn well.

Cyllideb yw cynllun ar gyfer gwariant yn ystod yr ymgyrch. Mae cyllideb yn sicrhau nad oes gorwario ar yr ymgyrch ac mae’n cynorthwyo gwneud penderfyniadau ynglŷn â chyfryngau priodol. Heb gyllideb byddai’n hawdd iawn i gostau fynd allan o reolaeth, felly mae’n bwysig nodi gwerth ariannol ar gyfer pob rhan o’r ymgyrch, e.e. os ydych chi’n cynllunio posteri hysbysfwrdd bydd angen neilltuo arian ar gyfer dylunio cynnwys y poster, creu’r posteri a llogi lleoliadau i arddangos y posteri.

Amserlenni ar gyfer yr ymgyrch, gan gynnwys monitro

Mae amserlenni’n ffordd dda o sicrhau bod y prosiect cyfan yn aros y tu fewn i derfynau amser. Mae nifer o wefannau ar-lein y gallwch eu defnyddio i gynllunio amserlenni e.e. Monday.com a gallwch hefyd ddefnyddio rhaglen daenlen fel Excel. Mae’n bosib hefyd gwneud Siart Gantt.

Mewn Siart Gantt byddwch yn torri’r ymgyrch i lawr i dasgau unigol. Gallwch wedyn ddynodi amser a pherson/pobl ar gyfer pob tasg. Fel hyn, gallwch wneud yn siŵr bod yr holl brosiect yn mynd i gael ei gwblhau ar amser. Mae’n bwysig adeiladu gweithgareddau monitro i mewn i’r Siart Gantt hefyd e.e. cyfarfodydd monitro, er mwyn sicrhau bob popeth yn cael ei gwblhau fel y dylai, a chynnwys cynlluniau wrth gefn fel y bo angen.

Mae’r fideo canlynol yn Saesneg ond gallwch ddewis is-deitlau Cymraeg trwy fynd i ‘subtitles’, clicio ‘auto-translate’ a dewis ‘Welsh’:

Dulliau gwerthuso’r ymgyrch

Unwaith y mae’r ymgyrch wedi gorffen mae angen ei gwerthuso. Bydd gwybodaeth o’r cyfarfodydd monitro’n help wrth ateb cwestiynau fel:

Beth aeth yn dda?

Beth oedd y gwendidau?

Oes rhywbeth y gallwn ei wneud yn wahanol y tro nesa?

Bydd proses werthuso drwyadl yn eich galluogi i fireinio cynlluniau marchnata erbyn y tro nesa.