Ffurf a Swyddogaeth
Ffurf yw sut mae nwydd yn edrych tra bod swyddogaeth yn ymwneud â beth yw ei bwrpas. Mae rhan fwyaf o nwyddau’n cael eu dylunio gyda’r ddau beth mewn golwg. Er enghraifft mae Jac Codi Baw (JCB) wedi’i ddylunio i gloddio tyllau felly mae’r dyluniad yn canolbwyntio ar swyddogaeth, ond mae hefyd wedi’i baentio’n felyn sy’n cyd-fynd â delwedd y brand ac felly ei ffurf. Mae gan y cwsmeriaid fwy o ddiddordeb yn y ffordd y mae’n gweithio na sut y mae’n edrych.
Ar gyfer nwyddau eraill, ffurf yw popeth – y ffordd y mae’n edrych yw’r peth cyntaf mae pobl yn ei ystyried. Er enghraifft, gyda dillad ffasiynol bydd cwsmeriaid yn edrych ar olwg y nwydd yn gyntaf cyn ystyried ffactorau eraill fel gwneuthuriad a nodweddion eraill.
Mae’r rhan fwyaf o nwyddau’n gyfuniad o ystyriaethau ffurf a swyddogaeth.
Dilynwch y ddolen:
Beth yw swyddogaeth nwyddau Cwt Gafr?
Sut mae’r nwyddau’n bodloni eu swyddogaeth?
Yn eich barn chi, ydy’r busnes yn ystyried ffurf y nwyddau hefyd?
Pecynnu
Mae gan becynnu sawl swyddogaeth.
Prif bwrpas pecynnu yw cadw’r nwydd yn ddiogel neu’n ffres ond gall fod yn llawer mwy na hynny hefyd
Mae’n ofod i roi gwybodaeth angenrheidiol am y nwydd e.e. cynhwysion mewn bwyd neu mewn nwyddau ymolchi.
Mae nifer o ddeddfau’n ymwneud â’r math o wybodaeth y mae’n rhaid ei rhoi ar fwydydd e.e. mae angen nodi’r cynhwysion sydd yn y bwyd gan gynnwys alergenau. Mae hyn yn bwysig iawn i bobl sydd ag alergedd bwyd.
Mae hefyd angen rhoi gwybodaeth ynglŷn â dyddiadau ‘defnyddio erbyn’ a ‘gwell cyn’ ar nwyddau bwyd.
Yn ddiweddar daeth ‘Deddf Natasha’ i rym ar gyfer labelu bwydydd parod. Mae’r ddeddf wedi’i henwi ar ôl Natasha Ednan-Laperouse a fu farw yn 15 oed wedi bwyta brechdan barod o fwyty Prêt a Manger. Ar y pryd doedd dim angen nodi cynhwysion ar fwydydd oedd wedi’u paratoi ar y safle a’u lapio.
Gwyliwch y fideo yma i ddysgu mwy am y ddeddf:
Mae’r profiad ‘dad-focsio’ yn dod yn llawer mwy pwysig yn ddiweddar gyda busnesau’n canolbwyntio ar roi profiad pleserus i’r cwsmer pan fydd yn agor y bocs sy’n dal y cynnyrch.
Mae pwyslais cynyddol ar gynaliadwyedd wedi arwain at fusnesau’n gorfod talu mwy o sylw i’r hyn sy’n digwydd i’r pecynnu ar ôl iddo gael ei ddefnyddio. Mae nifer yn defnyddio nwyddau sy’n gallu cael eu hailgylchu, yn fioddiraddadwy, neu’n defnyddio llai o becynnu yn y lle cyntaf.
Mae hyn yn gallu bod yn ffactor bwysig, yn enwedig os yw’r nwydd yn cael ei farchnata fel nwydd ecogyfeillgar.
Castell Howell – gwyliwch y fideo ac yna atebwch y cwestiwn:
Pam mae Castell Howell yn ceisio torri i lawr ar y pecynnu maen nhw’n ei ddefnyddio?