Modiwl 1: Archwilio Nodweddion Busnesau
About Lesson

Astudiaeth achos: Admiral 

Admiral
Admiral Law staff
© Admiral

“Pwy ydyn ni?

Wedi ein sefydlu yn 1993, rydym yn grŵp gwasanaethau ariannol rhyngwladol gyda chwsmeriaid yn Ffrainc, yr Eidal, Sbaen, y DU ac UDA. Gyda ein pencadlys yng Nghymru yn y DU, rydym yn falch o fod yn unig gwmni FTSE 100 Cymru.

Mae gennym dros 11,000 o gydweithwyr sydd i gyd yn ymdrechu i wasanaethu ein 9 miliwn o gwsmeriaid yn unol â’n pwrpas i helpu mwy o bobl i ofalu am eu dyfodol; bob amser yn ymdrechu i wella gyda’n gilydd.”

Gwefan Admiral