Modiwl 1: Archwilio Nodweddion Busnesau
About Lesson

Unig Fasnachwr

 

Dyma’r ffurf leiaf a symlaf. Un person yn berchen ar fusnes yw unig fasnachwr. Ceir unig fasnachwyr ym mhob sector o’r economi.  Mae ffermwyr, pobl sy’n trin gwallt, plymwyr a pherchnogion siopau bach i gyd yn enghreifftiau o unig fasnachwyr.

Er mai dim ond un person sy’n berchen ar fusnes unig fasnachwr, mae’n bosib i unig fasnachwr gyflogi gweithwyr felly ambell waith ceir mwy nag un person yn gweithio yn y busnes.

 

 

Unig fasnachwr
Manteision

Maent yn syml iawn i’w sefydlu, does dim gwaith papur llafurus a does dim angen cyhoeddi gwybodaeth ariannol. 

Anfanteision

Er hyn, mae ambell i anfantais i fod yn unig fasnachwr. Y brif anfantais yw bod gan unig fasnachwyr atebolrwydd anghyfyngedig felly fe/hi yw’r unig berson sy’n atebol am unrhyw ddyledion sydd gan y busnes. Hefyd gan mai’r unig fasnachwr yw’r busnes, os yw’n marw mae’n bosib y bydd y busnes yn marw hefyd. Anfantais arall y gall unig fasnachwyr ei hwynebu yw diffyg cyfalaf gan mai dim ond un person sy’n rhoi arian i mewn i’r busnes.