Modiwl 1: Archwilio Nodweddion Busnesau
About Lesson

Sefydliadau Nid-er-Elw 

Ydych chi’n ymwybodol o gwmnïau nid er elw sy’n gweithredu yn eich ardal chi? Gwnewch restr a chymharwch hi â ffrind.

 Nod y rhan fwyaf o fusnesau preifat yw gwneud elw ond mae carfan o fusnesau nad oes ganddynt y nod o wneud elw. Gelwir y rhain yn fusnesau nid-er-elw ac maent yn cynnwys elusennau a busnesau gwirfoddol. Mae elusennau’n bodoli er mwyn codi arian i ariannu eu gwaith yn eu maes diddordeb. Er enghraifft mae Tenovus a sefydlwyd yng Nghaerdydd gan ddeg o ddynion busnes ym 1943 yn codi arian er mwyn rhedeg eu gwasanaethau cefnogaeth ac ymchwil cancr.

Ond nid dim ond elusennau neu fudiadau gwirfoddol sy’n gwmnïau nid-er-elw. Mae cwmnïau masnachol hefyd yn gallu gweithredu fel cwmnïau nid-er-elw. Er enghraifft mae Dŵr Cymru, sy’n darparu dŵr i gartrefi yng Nghymru, yn gwmni nid-er-elw. Gallwch ddarganfod mwy trwy ddilyn y ddolen.