Modiwl 1: Archwilio Nodweddion Busnesau
About Lesson

Dylanwadau Rhanddeiliaid ar lwyddiant busnes

 

Mae rhanddeiliaid yn gallu cael effaith gref ar fusnesau. Mae cadw rhanddeiliaid yn hapus yn bwysig i fusnesau er nad yw wastad yn bosib bob tro. Er enghraifft efallai bod y cyfranddalwyr eisiau ennill cymaint o elw â phosib ond mae’r gweithwyr eisiau codiad cyflog. Efallai nad yw’n bosib gwneud y ddau beth ar yr un pryd. Mae cwsmeriaid yn grŵp hynod bwysig mewn llwyddiant busnesau. Mae cadw cwsmeriaid yn bwysig ac mae busnesau yn buddsoddi mewn gwasanaeth cwsmeriaid er mwyn sicrhau eu teyrngarwch.

Mae cyfranogiad cyflogeion yn bwysig wrth gwrs. Mae gweithwyr sydd yn fodlon yn dueddol o fod yn fwy cynhyrchiol ac yn aros gyda’r cwmni’n hirach. Efallai eich bod wedi clywed am gyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol.

Mae hyn yn ymwneud â sut mae busnes yn ymddwyn. Bydd busnes sydd eisiau cael ei weld fel busnes cyfrifol yn ceisio ymddwyn mewn ffordd foesol e.e. gwrthod defnyddio olew palmwydd neu sicrhau ei fod yn talu’r cyflog byw cenedlaethol i’w weithwyr.