Cwmpas y Busnes
Mae cwmpas busnes yn golygu’r ardal y mae’n gweithredu ynddo. Mae busnesau yn gallu bod yn lleol, yn genedlaethol neu yn rhyngwladol. Er enghraifft, mae triniwr gwallt yn debygol o weithredu yn lleol tra bod cwmni fel Castell Howell sy’n dosbarthu bwydydd i lefydd bwyta yn gweithredu yn genedlaethol ar hyd a lled Cymru.
Mae busnesau eraill yn gweithredu ar draws y byd. Mae’n hawdd meddwl bod busnesau rhyngwladol yn gorfod bod yn fusnesau mawr fel cwmni Coca Cola neu McDonalds ond mae gwerthu ar-lein wedi agor y farchnad ryngwladol i fusnesau bach allu gwerthu ar draws y byd trwy eu gwefannau neu lwyfannau fel Etsy, Ebay ac ati.
Dyma gyfres o luniau sy’n dangos elfennau amrywiol o waith cwmni Castell Howell.
Pwyswch ar y llun i’w wneud yn fwy.