Modiwl 1: Archwilio Nodweddion Busnesau
About Lesson

Rhanddeiliaid Allanol 2

Asiantaethau ac adrannau’r Llywodraeth

Asiantaethau ac adrannau’r Llywodraeth (lleol, cenedlaethol, rhyngwladol) – mae Llywodraeth y DU yn gweithredu ar lefel DU cyfan, llywodraethau’r gwledydd datganoledig a lleol. Mae Llywodraeth y DU yn ymwneud â threthi ac ati. Yng Nghymru mae

  • Amaethyddiaeth, coedwigaeth a physgota
  • Addysg
  • Amgylchedd
  • Iechyd a gofal cymdeithasol
  • Tai
  • Llywodraeth leol
  • Priffyrdd a thrafnidiaeth

wedi eu datganoli felly Llywodraeth Cymru sydd â throsolwg llywodraethol yn y meysydd hyn. Mae nifer o gyfrifoldebau wedi eu datganoli i Gynghorau Sir, er enghraifft mae caniatâd cynllunio yn rhywbeth y byddai busnesau o bosib yn gwneud cais amdano i wneud newidiadau i’w hadeiladau.

Cymunedau

Cymunedau (lleol, cenedlaethol, rhyngwladol) pobl sydd yng nghwmpas y busnes

Carfanau pwyso

Carfanau pwyso – dyma grwpiau sy’n pwyso ar fusnesau neu lywodraethau i newid rhywbeth er enghraifft mae grŵp ‘Just Stop Oil’ yn garfan bwyso sydd yn y newyddion ar hyn o bryd. Carfanau pwyso eraill yw Black Lives Matter a Cymdeithas yr Iaith sy’n ymgyrchu dros hawliau pobl i ddefnyddio’r iaith Gymraeg.

Grwpiau buddiant

Mae’r rhain yn gyrff sydd â diddordeb o ryw fath yn y sector. Rhai enghreifftiau o grwpiau buddiant yw:

  • Undebau Llafur – cyfundrefnau sy’n edrych ar ôl buddiannau gweithwyr
  • Siambrau Masnach
  • Rheoleiddwyr – er enghraifft y rheoleiddwyr addysg, Estyn
  • Sefydliadau proffesiynol e.e. Cyngor y Gweithlu Addysg sy’n cynrychioli athrawon