Pwrpas
Mae’n bwysig deall bod gan wahanol fusnesau wahanol bwrpasau. Er enghraifft gallent fod yn gwerthu nwyddau neu ddarparu gwasanaeth (neu’r ddau). Mae busnes sy’n darparu gwasanaeth yn gwerthu profiad i’r cwsmer e.e. Techniquest yng Nghaerdydd. Prif bwrpas Techniquest yw darparu profiad addysgiadol a hwyl i’w gwsmeriaid. Mae hefyd wrth gwrs yn gwerthu nwyddau fel cofroddion ac mae yno siop goffi sy’n gwerthu nwyddau.
Cymharwch hyn gyda chwmni fel Halen Môn. Prif bwrpas Halen Môn yw cynhyrchu halen (nwydd ffisegol) a’i werthu ar draws y byd, ond mae hefyd yn cynnig teithiau o gwmpas ei ffatri.
Gall pwrpas busnes ymwneud â gwneud elw ai peidio, fel rydym wedi gweld yn barod. Ond hyd yn oed mewn busnesau sydd ag elw yn brif bwrpas, mae’n debygol y byddai ganddyn nhw flaenoriaethau eraill hefyd. I gwmnïau nid er elw, yn aml mae ganddyn nhw bwrpas cymdeithasol. Hynny yw, maen nhw eisiau gwneud gwahaniaeth mewn rhyw ffordd.