Modiwl 1: Archwilio Nodweddion Busnesau
About Lesson

Astudiaeth achos 

Amgueddfa Cymru

“Mae Amgueddfa Cymru yn elusen ac yn deulu o saith amgueddfa genedlaethol a chanolfan gasgliadau, oll wedi’u lleoli ar draws Cymru. Ond rydyn ni’n fwy nag adeiladau yn unig. Mae ein hamgueddfeydd yn ganolfannau cymunedol pwysig sy’n ymestyn tu hwnt i’w milltir sgwâr. Ein nod yw ysbrydoli pawb trwy stori Cymru ac rydyn ni’n deall bod gan bawb rywbeth i’w gyfrannu trwy ein hamgueddfeydd, ein casgliadau a’n gwaith.

“Rydyn ni’n croesawu pawb am ddim, diolch i nawdd gan Lywodraeth Cymru, ac mae’r croeso cynnes hwnnw’n ymestyn i bawb o bob cymuned sy’n ein helpu i ddangos fod Cymru ddoe, heddiw ac yfory yn genedl amrywiol. Mae rhywbeth yma i danio, cyffroi neu newid pob un ohonom. Mae Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb – eich stori chi yw ein stori ni.”

Gwefan Amgueddfa Cymru

Beth yw ffurf busnes Amgueddfa Cymru?

Beth yw ei gwmpas?

Ym mha sector mae’r amgueddfa?