Modiwl 1: Archwilio Nodweddion Busnesau
About Lesson
Astudiaethau Busnes

Cyfathrebu ar-lein

 

Erbyn hyn mae cyfathrebu ar-lein yn bwysicach o lawer ac mae presenoldeb digidol busnesau yn ffordd bwysig iddynt gyfathrebu eu neges i’w cwsmeriaid.

Gan fod pobl yn gallu dilyn cwmnïau ar lwyfannau fel TikTok, Facebook ac Instagram, mae busnesau’n gallu sichrau bod eu neges yn cyrraedd pobl sydd â diddordeb. Mae gan y cwmnïau cyfryngau cymdeithasol doreth y wybodaeth am arferion eu cynulleidfaoedd sy’n galluogi busnesau i dargedu gwybodaeth yn effeithiol. Gwrandewch ar Lucie Macleod, perchennog busnes ifanc yn Abergwaun, yn trafod ei chwmni, Hair Syrup, a sut gwnaeth ei fideos feiral ar TikTok gyfrannu at ei llwyddiant ysgubol.

Nodwedd arall ar y cyfryngau cymdeithasol yw datblygiad cymunedau rhithwir o gwmpas diddordebau grwpiau o bobl. Mae hyn yn galluogi i fusnesau dargedu negeseuon at bobl â diddordebau penodol.