About Lesson
Rhanddeiliaid mewnol
Mewnol – mae rhanddeiliaid mewnol yn bobl sy’n rhan o’r busnes yn uniongyrchol, er enghraifft perchnogion, gweithwyr a rheolwyr. Byddant yn cael eu heffeithio gan y busnes ac yn cael effaith uniongyrchol arno. Mae’r rhain yn cynnwys perchnogion, cyfarwyddwyr, rheolwyr a gweithwyr. Yn dibynnu ar y busnes gallent hefyd gynnwys ymddiriedolwyr, aelodau o’r bwrdd a gwirfoddolwyr.