Astudiaeth achos – Rhanddeiliaid allanol
“Mae penderfyniad i roi nod masnach (trademark) i gwmni o Gymru ar y geiriau ‘cariad’, ‘hiraeth’ a ‘Welshcake’ wedi cael ei feirniadu’n hallt.”
Bu cwmni Fizzy Foam o Ben-y-bont yn llwyddiannus yn ei gais i gofrestru’r geiriau ‘cariad’, ‘hiraeth’ a ‘Welshcake’ fel nodau masnach (trade marks) ar gyfer ei ganhwyllau. Byddai hyn wedi atal busnesau eraill rhag defnyddio’r enwau ar gynhyrchion tebyg.
Roedd cystadleuwyr Fizzy Foam yn poeni’n fawr ynglŷn â’r penderfyniad.
(h) Steven Goldstone.
“Cyn belled â ma’ fy nghwmni i yn y cwestiwn, mae gen i nifer o ganhwyllau gyda ‘cariad’ arnyn nhw. Byddwn i’n methu â gwerthu’r rhain.
Dwi ddim yn meddwl ei fod i unrhyw un busnes ddweud mai nhw sy’n berchen ar y geiriau hyn.”
Yn ôl Amanda James, pennaeth cwmni Gweni, sydd hefyd yn cynhyrchu canhwyllau ym Mhen-y-bont ar Ogwr, bydd y penderfyniad yn cael effaith fawr ar ei busnes.
Nid dim ond y cystadleuwyr oedd yn anhapus. Dechreuwyd deiseb yn erbyn y penderfyniad a chynhyrchodd un cwmni Cymraeg grysau-T gyda’r geiriau arnynt fel protest.
Yn y diwedd ildiodd y cwmni ei nodau masnach yn wirfoddol.
Pa randdeiliaid y sonnir amdanynt?
A gafodd y digwyddiad effaith negyddol neu gadarnhaol ar Fizzy Foam yn eich barn chi?