Partneriaeth
Fel y byddech yn disgwyl, mae partneriaeth yn gwmni sy’n berchen i fwy nag un person – fel arfer rhwng 2-20. Fe’i gwelir yn aml mewn proffesiynau megis y gyfraith, cyfrifyddiaeth, meddygaeth ac ati. Bydd perchnogion yn rhoi arian i mewn i’r busnes ac yn rhannu’r elw.
Mae partneriaethau hefyd yn syml i’w sefydlu ond dylai’r partneriaid lunio dogfen o’r enw Cytundeb Partneriaeth sy’n amlinellu faint o arian y bydd y perchnogion yn ei fuddsoddi yn y busnes a pha ganran o’r elw y byddant yn ei derbyn yn ogystal ag amlinellu eu cyfrifoldebau a sut i ddôd â’r bartneriaeth i ben.
Os nad oes gan y bartneriaeth gytundeb partneriaeth caiff unrhyw elw ei ddosbarthu’n hafal yn ôl Deddf Partneriaethau 1890.
Manteision
Mae manteision amlwg yn deillio o gael mwy nag un person yn rhedeg y busnes. Gellir rhannu’r gwaith ac mae cyfle i bartneriaid arbenigo mewn gwahanol feysydd o fewn y busnes. Hefyd, efallai y bydd mwy o gyfalaf i ddechrau’r busnes.
Anfanteision
Mae yna anfanteision wrth gwrs. Fe allai’r partneriaid anghytuno ac mae angen rhannu’r elw. Hefyd mae gan bartneriaethau atebolrwydd anghyfyngedig sy’n golygu, yn yr un modd ag unig fasnachwyr, eu bod yn atebol yn bersonol am unrhyw ddyledion.
Ystyriwch pam y byddai busnesau eisiau bod yn bartneriaeth yn hytrach nag yn unig fasnachwr. Rhannwch eich syniadau gyda ffrind.