Perchnogaeth ac Atebolrwydd
Gall fod nifer o ffyrdd gwahanol o berchen ar fusnes gan gynnwys perchnogaeth breifat, gyhoeddus a busnesau nid-er-elw. Mae ganddynt nodweddion ac amcanion gwahanol y byddwn yn eu harchwilio yn y tudalennau nesaf.
Un nodwedd bwysig sydd gan fusnesau preifat y mae angen i chi fod yn ymwybodol ohoni yw atebolrwydd. Mae atebolrwydd yn ymwneud â pha mor atebol yw perchnogion busnes am unrhyw ddyledion sydd gan y busnes petai’n mynd yn fethdalwr. Gall atebolrwydd fod yn gyfyngedig neu’n anghyfyngedig. Cliciwch ar y geiriau i ddarllen mwy
Atebolrwydd Anghyfyngedig
Mewn busnesau sydd ag atebolrwydd anghyfyngedig bydd y perchennog yn atebol am yr holl ddyledion os bydd y busnes yn mynd yn fethdal. Gall hyn olygu y byddai’n rhaid i’r perchennog werthu eiddo personol megis tŷ neu gar er mwyn talu dyledion y busnes.
Atebolrwydd Cyfyngedig
Mewn busnesau sydd ag atebolrwydd cyfyngedig ar y llaw arall, dim ond yr arian y mae perchnogion wedi ei fuddsoddi yn y cwmni y gallant ei golli yn gyffredinol.