About Lesson
Sefydliadau Cyhoeddus
Mae Sefydliadau Cyhoeddus yn berchen i’r Llywodraeth ac yn cael eu hariannu ganddi. Yr esiampl fwyaf adnabyddus i ni yng Nghymru yw’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG). Y trethdalwr sy’n ariannu’r GIG trwy’r Llywodraeth. Mae Sefydliadau Cyhoeddus yn aml wedi eu sefydlu i gwrdd ag angen sylfaenol – yn achos y GIG – ein hangen sylfaenol am iechyd.
Rheswm arall dros gael Sefydliad Cyhoeddus yw mewn diwydiant sy’n bwysig yn strategol neu’n wleidyddol. Er enghraifft mae’r Bathdy Brenhinol (Royal Mint) yn Llantrisant yn Sefydliad Cyhoeddus sy’n berchen i’r Trysorlys. Prif bwrpas Y Bathdy Brenhinol yw bathu darnau arian ar gyfer y Deyrnas Unedig er ei fod hefyd yn bathu darnau arian ar gyfer digwyddiadau arbennig.