About Lesson
Cyfathrebu ysgrifenedig
Cyflwyno a darparu gwybodaeth yn briodol i gynulleidfa benodol. Mae cyfathrebu ysgrifenedig yn digwydd drwy’r amser mewn busnes. O adroddiadau manwl ynglŷn â pherfformiad cwmni neu adroddiadau briffio cynhwysfawr i e-byst gan reolwr at weithiwr neu daflen farchnata, felly mae’n bwysig bod y dull cyfathrebu yn addas i’w bwrpas. Mae dulliau ysgrifenedig yn gallu bod yn bwysig lle mae angen cofnod o’r cyfathrebu neu pan fo llawer o wybodaeth gymhleth y mae angen ei rhannu. Mae angen i rai busnesau gyhoeddi adroddiadau blynyddol sy’n cynnwys gwybodaeth ariannol ar fformat penodol felly mae’n bwysig eu bod yn cyfathrebu hyn yn y ffordd gywir.