Modiwl 1: Archwilio Nodweddion Busnesau
About Lesson

Astudiaeth achos fideo – Pwrpas busnes

 

Cwmni arall nid er elw yw cwmni beicio mynydd Antur Stiniog. 

Antur Stiniog

“Mae Antur Stiniog yn fenter gymdeithasol. Sefydlwyd y cwmni ym mis Mehefin 2007 ar ôl derbyn addewidion o gefnogaeth gan fwy na 2000 o drigolion lleol – pob un ohonynt yn rhannu’r un weledigaeth sef “Datblygu potensial y Sector Awyr Agored yn ardal Ffestiniog mewn ffordd gynaliadwy ac arloesol er budd y trigolion a’r economi leol.”

Gwefan Antur Stiniog

 

Nod Antur Stiniog yw gwireddu’r weledigaeth hon drwy gyfrwng nifer o brosiectau cyffrous sy’n amrywio o ddarparu mwynhad, hyfforddiant yn y sector a datblygu cyfres o lwybrau beicio mynydd yn yr ardal.” (Gwefan Antur Stiniog)

 

Antur Stiniog

Gwyliwch y fideo a myfyriwch ar y cwestiynau canlynol:

Beth yw prif bwrpas Antur Stiniog?

Oes ganddo bwrpasau eraill hefyd?