Modiwl 1: Archwilio Nodweddion Busnesau
About Lesson

Rhesymau dros lwyddiant

 

Mae’r hyn sy’n cyfrif fel llwyddiant yn amrywio o fusnes i fusnes. Er enghraifft rydym eisoes wedi edrych ar y ffaith bod yna fusnesau sydd ddim ag elw fel amcan. Mae’r busnesau hyn eisiau gwneud digon o arian er mwyn parhau i wneud yr hyn maent yn ei wneud, er enghraifft mae cwmni Dŵr Cymru yn gwmni nid-er-elw sy’n darparu dŵr i bob teulu yng Nghymru. Nid yw Dŵr Cymru yn gwneud elw ar gyfer cyfranddalwyr ond yn hytrach yn anelu at ennill digon o arian i barhau i ddarparu dŵr glân i bobl Cymru.

Gall fod gan fusnesau resymau eraill dros lwyddiant. Efallai bod ganddynt weledigaeth glir o’r hyn y maent eisiau ei gyflawni neu fod ganddynt gynnyrch neu broses arloesol y maent eisiau ei ddatblygu.