About Lesson
Cwmni Cydweithredol
Mewn cwmni cydweithredol, y gweithwyr sy’n berchen ar y cwmni. Mae pawb yn y cwmni yn gyfartal ac mae pob aelod yn rhoi’r un faint o gyfalaf i mewn i’r cwmni. Maent yn aml yn fentrau cymdeithasol sy’n ceisio darparu cynnyrch gwell ar gyfer cwsmeriaid a bywoliaeth well i’w perchnogion. Enghraifft o gwmni o’r fath yw Cwmni Llaeth Cymreig.
‘Y ffermwyr sy’n cynhyrchu ein llaeth yw perchnogion cwmni Llaeth Cymreig. Fel cwmni cydweithredol, mae’r cwmni wedi canolbwyntio ar dwf cyfrifol, gan weithio i wella effeithlonrwydd ein darpariaeth a sicrhau mwy o elw i’r ffermwr llaeth.’ (Gwefan Cwmni Llaeth Cymreig)