Modiwl 1: Archwilio Nodweddion Busnesau
About Lesson

Cwmni Cyfyngedig Preifat

 

Mae cwmni cyfyngedig preifat yn berchen i gyfranddalwyr. Ystyr cyfranddalwyr yw pobl sy’n berchen ar ‘ran’ o’r busnes. Yr enw ar y ‘rhan’ y maen nhw’n berchen arno yw ‘cyfranddaliad’. Mewn cwmni cyfyngedig preifat mae cyfranddaliadau’n cael eu gwerthu’n breifat – hynny yw, dydyn nhw ddim yn cael eu cynnig yn agored i’r cyhoedd. Yn aml maent yn cael eu gwerthu i deulu a ffrindiau.

Mae cwmni cyfyngedig preifat yn cael ei ddynodi gan y llythrennau Cyf. (Ltd).

 

Manteision

Mae gan gwmnïau cyfyngedig preifat atebolrwydd cyfyngedig sy’n golygu mai dim ond gwerth y cyfranddaliad y maent wedi eu prynu y mae’r perchnogion yn gallu eu colli. Mae hyn yn ei gwneud yn haws i ddenu pobl i fuddsoddi yn y cwmni.

Anfanteision

Mae mwy o gamau ffurfiol er mwyn ffurfio cwmni cyfyngedig preifat. Er enghraifft, rhaid i’r perchnogion gyflwyno gwybodaeth i’r Cofrestrydd yn Nhŷ’r Cwmnïau yng Nghaerdydd. Y ddwy ddogfen sydd angen eu cwblhau yw Memorandwm Sefydlu ac Erthyglau Sefydlu.